Joshua 21

Pobl Israel yn rhoi trefi i'r Lefiaid

1Dyma arweinwyr llwyth Lefi yn mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel, 2yn Seilo yn Canaan. A dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses roi trefi i ni fyw ynddyn nhw, gyda tir pori o'u cwmpas nhw i'n hanifeiliaid.” a 3Felly, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud, dyma bobl Israel yn rhoi trefi gyda tir pori o'u cwmpas nhw, i lwyth Lefi:

4Y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath gafodd y rhai cyntaf. Cafodd y Lefiaid oedd yn ddisgynyddion Aaron yr offeiriad un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Jwda, Simeon a Benjamin.
5A dyma'r gweddill o ddisgynyddion Cohath yn cael deg tref o diriogaeth llwythau Effraim, Dan a hanner llwyth Manasse.
6Cafodd disgynyddion Gershon un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali, a hanner arall llwyth Manasse yn Bashan.
7Cafodd y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Merari un deg dwy o drefi o diriogaeth Reuben, Gad a Sabulon.

8Dyma'r trefi, gyda'u tir pori, wnaeth pobl Israel eu rhoi i lwyth Lefi, fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn i Moses:

9O diriogaeth llwythau Jwda a Simeon, 10y trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd Cohath, oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad – nhw gafodd y rhai cyntaf:
11Ciriath-arba, sef Hebron, ym mryniau Jwda. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.) 12Ond roedd y tir agored a'r pentrefi o'i chwmpas eisoes wedi cael eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne. 13Felly i ddisgynyddion Aaron yr offeiriad dyma nhw'n rhoi Hebron (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Libna, 14Iattir, Eshtemoa, 15Cholon, Debir, 16Ain, Iwtta, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un. Naw o drefi wedi eu cymryd o diriogaeth y ddau lwyth yma.
17O diriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n rhoi Gibeon, Geba, 18Anathoth, ac Almon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

19Felly cafodd un deg tair o drefi eu rhoi i'r offeiriad, disgynyddion Aaron.

20Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath (o lwyth Lefi) y trefi canlynol:

O diriogaeth llwyth Effraim dyma nhw'n rhoi 21Sichem, ym mryniau Effraim (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Geser, 22Cibtsaim, a Beth-choron, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
23O diriogaeth llwyth Dan dyma nhw'n rhoi Eltece, Gibbethon, 24Aialon, a Gath-rimmon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
25O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Taanach a Jibleam
21:25 Jibleam Un cyfieithiad hynafol, a gw. hefyd 1 Cronicl 6:70; Hebraeg, “Gath-rimmon”.
, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd.

26Felly cafodd y deg tref yma eu rhoi i weddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath.

27Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon, o lwyth Lefi:

O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall) a Beeshtera, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd.
28O diriogaeth llwyth Issachar: Cishon, Daberath, 29Iarmwth, ac En-gannïm, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
30O diriogaeth llwyth Asher: Mishal, Abdon, 31Helcath, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
32O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Chamath-dor, a Cartan, a'r tir pori o gwmpas pob un. Tair o drefi i gyd.

33Felly cafodd yr un deg tair tref yma eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon.

34Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari:

O diriogaeth llwyth Sabulon: Jocneam, Carta, 35Dimna, a Nahalal, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
36O diriogaeth llwyth Reuben: Betser, Iahats, 37Cedemoth, a Meffaäth, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
38O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Machanaîm, 39Cheshbon, a Iaser, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

40Felly cafodd yr un deg dwy tref yma eu rhoi i weddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari.

41Cafodd pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda'u tir pori, eu rhoi i lwyth Lefi, o fewn tiroedd pobl Israel. 42Roedd tir pori o gwmpas pob un o'r trefi.

Israel yn setlo yn y tir

43Felly dyma'r Arglwydd yn rhoi i bobl Israel yr holl dir roedd wedi ei addo i'w hynafiaid nhw. Dyma nhw'n ei goncro ac yn setlo i lawr i fyw ynddo. 44A dyma'r Arglwydd yn rhoi heddwch iddyn nhw fel roedd e wedi addo ar lw i'w hynafiaid. Roedd wedi eu helpu i goncro eu gelynion i gyd. 45Roedd pob un addewid wnaeth yr Arglwydd i bobl Israel wedi dod yn wir.

Copyright information for CYM